Rhestr duwiau a duwiesau Llychlynnaidd

Y dduwies Sif

Rhennir y duwiau a duwiesau Llychlynnaidd yn ddau dylwyth, yr Æsir a'r Vanir. Weithiau mae'r tylwythau'n cynnwys y jøtnar (cewri), ond nid yw'r llinell rhyngddynt yn eglur iawn. Fe dderbynnir yn fras, fodd bynnag, fod yr Æsir (yn cynnwys Óðinn, Þórr a Týr) yn dduwiau ymladdgar, tra fod y Vanir (Njørðr, Freyja a Freyr yn bennaf) yn dduwiau ffrwythlondeb. Roedd grwpiau amrywiol eraill o fodau dwyfol neu arallfydol, yn cynnwys y Tylwyth Teg, y corrod a'r jøtnar, yn dduwiau llai yn ôl pob tebyg, efallai â'u cyltau a'u cysegrfeydd eu hunain.


Developed by StudentB